Ysgolion Iach Gwynedd yn ennill dwy wobr

Cartref > Newyddion > Ysgolion Iach Gwynedd yn ennill dwy wobr

Ysgolion Iach Gwynedd yn ennill dwy wobr am ddefnyddio’r Gymraeg ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol

Mae Judith Roberts, Uwch Gydgysylltydd Cyngor Gwynedd dros gynaliadwyedd a’r cynlluniau Ysgolion Iach a Chyn Ysgolion Iach, wedi ennill dwy o wobrau Llywodraeth Cymru am ddefnyddio’r Gymraeg ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol. Mae’r seremoni, a gynhaliwyd yn Venue Cymru, Llandudno, ar 2 Gorffennaf, yn ddigwyddiad blynyddol. Ei nod yw rhannu’r arferion gorau a gwella’r ddarpariaeth Gymraeg ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol.

Enillodd Judith y wobr am Arweinyddiaeth, Ymrwymiad ac Arloesi gan Uwch-reolwyr. Roedd y wobr o £1,000 yn cydnabod ei gwaith ar ran Cyngor Gwynedd yn rheoli’r cynlluniau Ysgolion Iach a Chyn Ysgolion Iach drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cafodd Judith glod arbennig hefyd yn y categori Technoleg a’r Gymraeg, gan ennill £250 am greu’r adnodd rhyngweithiol dwyieithog Tyfu i Fyny, sy’n cynorthwyo athrawon sy’n addysgu Addysg Rhyw a Pherthnasoedd. Er mai ar gyfer ysgolion Gwynedd y cafodd yr adnoddau llwyddiannus hyn eu creu’n wreiddiol, mae holl ysgolion cynradd Cymru wedi eu cael erbyn hyn. Cafodd Judith ei henwebu hefyd am ‘Waith gyda grwpiau blaenoriaeth’, hynny yw, yn y categori ‘Teuluoedd, Plant a Phobl Ifanc’.

Dywedodd Judith: “Rydw i wrth fy modd fy mod i wedi ennill y gwobrau hyn. Mae gwneud hynny’n cydnabod fy ymrwymiad at weithio drwy gyfrwng y Gymraeg i wella iechyd a lles plant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae’n fraint cael gweithio gyda thîm brwdfrydig, cydwybodol a phroffesiynol. Mae’r aelodau wedi bod yn gefn cyson i mi a hoffwn ddiolch iddyn nhw am fy ngalluogi i ddatblygu cynllun arloesol o safon.

“Y bwriad yw gwario’r arian a gefais i greu adnoddau dwyieithog a fydd yn helpu ysgolion i roi agweddau o’r cynllun Ysgolion Iach ar waith.”

Dynas yn gafael dau wobr

Pob newyddion