Croeso i wefan Cynllun Ysgolion a Cyn Ysgolion Iach a Cynaliadwy Iach Gwynedd
Mae Cynllun Ysgolion a Chyn Ysgolion Iach Gwynedd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gweithredir y Cynllun gan Adran Addysg Cyngor Gwynedd.
Rheolir a chydlynir y Cynllun gan Sarah Trotman. Mae dwy ymarferydd hefyd yn cefnogi'r Cynllun, sef Ann Hughes a Catrin O'Mahony. Mae Sarah a Catrin wedi'u lleoli ym Mhencadlys Cyngor Gwynedd, Caernarfon, ac mae Ann wedi'i lleoli yn swyddfeydd Cyngor Gwynedd, Dolgellau.
Mae'r tair ohonom ar gael i gefnogi a chynghori athrawon ac arweinwyr ar ddatblygu'r Cynllun mewn ysgolion a chyn-ysgolion ledled Gwynedd. Mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bost neu dros y ffôn.