Tyfu i Fyny
Cartref > Newyddion > Tyfu i Fyny
Mae adnoddau rhyngweithiol a ddatblygwyd yng Ngwynedd yn rhoi hyder i athrawon i gyflwyno addysg rhyw a pherthnasoedd.
Mae effaith adnodd addysg rhyw a pherthnasoedd newydd rhyngweithiol a dwyieithog o’r enw Tyfu i Fyny/Growing Up wedi’i chyhoeddi mewn erthygl yn y cylchgrawn Addysg Iechyd diweddaraf. Roedd yr erthygl, a ysgrifennwyd gan Judith Roberts, sef Uwch-ymarferydd Ysgolion Iach Gwynedd, yn un o ddim ond chwe phapur a ddewiswyd i’w cyhoeddi’n rhyngwladol mewn rhifyn arbennig o Sexuality Education.
Mae’r erthygl yn disgrifio datblygu adnoddau addysgu ar gyfer ysgolion cynradd, sy’n addas ar gyfer disgyblion rhwng 5 a 12 oed. Mae hefyd yn trafod y gefnogaeth a ddarperir ar gyfer athrawon a rhieni ac arfarniad cychwynnol yn dilyn eu defnyddio. Mae’r Cylchgrawn Health Education yn gylchgrawn a arfarnir gan gyfoedion sy’n cyhoeddi papur o ansawdd uchel ar addysg iechyd a hybu iechyd.
Mae Tyfu i Fyny/Growing Up yn cynnwys dwy gydran. Mae’r gyntaf yn fat llawr rhyngweithiol rhwng 5 a 12 ynglŷn â’r corff, diogelwch personol, newidiadau adeg y glasoed a gweithgareddau hybu iechyd eraill. Mae’r ail gydran yn rhaglen ar y we sy’n electronig ac yn rhyngweithiol ac yn addas ar gyfer addysgu disgyblion rhwng 9 a 12 oed am y glasoed, perthnasoedd cariadlon, cenhedlu, beichiogrwydd a genedigaeth.
Dywedodd Judith Roberts, “Rwyf wrth fy modd bod fy erthygl wedi cael ei dewis yn rhyngwladol a bod fy ngwaith wrth ddatblygu ac arfarnu effaith Tyfu i Fyny/Growing Up ar addysg rhyw a pherthnasoedd o fewn ysgolion cynradd wedi’i gyhoeddi yng Nghylchgrawn Health Education.
Mae tystiolaeth o’r arfarniad yn dangos bod yr adnoddau wedi cael effaith gadarnhaol ar brofiadau addysgu a dysgu athrawon cynradd a’u disgyblion. Mae hefyd yn dangos sut mae’r sesiynau hyfforddi athrawon a defnyddio’r adnoddau Tyfu i Fyny/Growing Up wedi codi hyder athrawon wrth gyflwyno addysg rhyw a pherthnasoedd. Mae myfyrwyr wedi mynegi eu mwynhad wrth ddysgu gan ddefnyddio’r adnoddau. Mae’r llwyddiant o fewn Gwynedd wedi arwain at bob ysgol gynradd ledled Cymru yn gallu cael mynediad at yr adnoddau hyn.”