Mae cynllun Ysgolion Iach Gwynedd yn cael ei reoli mewn partneriaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Betsi Cadwaladr University Health Board.
Derbyniodd Cynllun Ysgolion Iach Gwynedd achrediad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym Mehefin 2002. Golyga hyn ein bod wedi llwyddo i gyrraedd y safon uchaf a ddisgwylir gan y Cynulliad. Dylai pob Ysgol felly gyflawni ’r safon angenrheidiol er mwyn cynnal y llwyddiant.
Mae pob ysgol gynradd, uwchradd ac arbennig o fewn y Sir wedi ymrwymo i weithredu’r Cynllun o fewn eu hysgolion erbyn hyn gyda’r ysgolion olaf wedi ymuno ers mis Mawrth 2009.
Mae’r cynllun yn galluogi ysgolion i gyfrannu’n bositif tuag at iechyd a lles eu disgyblion, athrawon a’r gymuned ehangach drwy ddatblygu amgylchedd sy’n hyrwyddo iechyd.
Mae ‘Ysgolion Iach’ yn cyflwyno agweddau iechyd a lles drwy’r:-
|
- Cwricwlwm cudd ac ethos yr ysgol
|
- Datblygu ar y cysylltiadau sydd yn bodoli eisoes rhwng y cartref, y gymuned ac asiantaethau arbenigol.
|
|