
Cynllun 10 Pwynt ‘Ysgolion Iach’ Gwynedd
Yn ystod y tri Cam cyntaf bydd ysgolion yn gweithredu’r deg pwynt canlynol:-
Pwynt 1
Dylai’r ysgol ddatblygu ar y cysylltiadau
gyda’r cartref, y gymuned, a gwasanaethau
arbenigol perthnasol, gan bwysleisio gwir
bartneriaeth a’r awydd i ddod yn Ysgol Iach..... cliciwch yma
Pwynt 2
Dylid datblygu agwedd positif ysgol-gyfan
tuag at fwyd a maeth a sicrhau bod bwyta’n
iach yn cael ei hyrwyddo..... cliciwch yma
Pwynt 3
Dylai’r ysgol ddatblygu fel man gwaith
sy’n hyrwyddo iechyd cymdeithasol,
corfforol ac emosiynol pob aelod o staff....... cliciwch yma.
Pwynt 4
Dylai’r ysgol weithredu i atgyfnerthu
hunan werth a hyrwyddo iechyd meddwl
yr HOLL ddisgyblion...... cliciwch yma
Pwynt 5
Dylid dangos ymrwymiad i wella amgylchedd
yr ysgol, er hyrwyddo iechyd a lles holl gymuned
yr ysgol....... cliciwch yma
Pwynt 6
Sicrhau cynlluniau tymor hir sy’n rhoi
cyfle i bob disgybl i gymryd rhan
mewn gweithgareddau corfforol yn gyson..... cliciwch yma
Pwynt 7
Sicrhau bod yr ysgol gyfan yn
amgylchedd di-fwg, sy’n pwysleisio
manteision peidio ysmygu ........ cliciwch yma
Pwynt 8
Dylai’r ysgol feddu ar Bolisi Atal
Cyffuriau a gefnogir gan raglen
addysg gyffuriau ac alcohol a gynlluniwyd....... cliciwch yma
Pwynt 9
Dylai’r ysgol ddangos ymrwymiad i
Addysg Rhyw a Pherthnasoedd trwy
feddu ar Bolisi a rhaglen addysg a gynlluniwyd....... cliciwch yma
Pwynt 10
Sicrhau bod yr ysgol yn ystyried
diogelwch yn flaenoriaeth gan weithredu’n
ragweithiol yn hytrach nag yn adweithiol..... cliciwch yma
Mae'r gwybodaeth i gyd ar gael yn
Llyfryn Gwybodaeth Cynllun Gwynedd. |