Hafan
  Amdanom ni
  Y Cynllun
  Athrawon
  Plant
  Cysylltu
 

Yn yr Adran yma

 

 
     
     
     
 

AMDANOM NI

hanes

 
 
 

 


Sefydlwyd Rhwydwaith Ewropeaidd Ysgolion Sy’n Hybu Iechyd ym 1992. Mae Rhwydwaith ‘Ysgolion Iach’ Cymru’n cael ei ystyried yn flaengar ac felly’n sylfaen gadarn i ddatblygiad Cynllun Ysgolion Iach yng Ngwynedd.

Mae ysgol sy’n hybu iechyd yn un sy’n hyrwyddo ac yn diogelu iechyd corfforol, meddyliol a chymdeithasol ei chymuned, ynghyd a’i lles, drwy weithredu’n gadarnhaol. Mae’n golygu ymgorffori hyn ym mholisi, cynllunio strategol a datblygu staff yr Ysgol mewn perthynas â’i chwricwlwm, ei hethos, ei hamgylchedd ffisegol a’i chysylltiadau a’r gymuned.

Nodwyd yn y ddogfen ‘Gwell Iechyd, Gwell Cymru’ yr angen am amrywiaeth o ffyrdd i ddiogelu a gwella iechyd pobl. Erbyn heddiw mae llawer o strategaethau a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi sylw pendant i dargedau gwella iechyd a lles plant a phobl ifanc drwy’r Cynllun ‘Ysgolion Iach’ Rhwydwaith Cymru. Mae Strategaethau Lleol a Chenedlaethol yn rhoi blaenoriaeth i iechyd a lles plant a phobl ifanc drwy ddatblygu Cynllun ‘Ysgolion Iach’ ymhellach. Mae’r cysyniad o Sialens Iechyd Cymru yn cynnig her i bawb i weithio tuag at wella iechyd y boblogaeth.

Gall hybu iechyd o fewn ysgolion fod yn allweddol o ran lleihau anghydraddoldeb iechyd drwy ymdrin â materion ysmygu, lleihau gordewdra, hybu gweithgareddau corfforol a lleihau anafiadau. Mae hefyd yn cynnig ei hun yn amgylchedd sydd yn annog plant a phobl ifanc i gynnal a gwella eu hiechyd eu hunain a bod â pherchnogaeth am eu cyrff.

Gan fod Addysg Bersonol a Chymdeithasol erbyn hyn yn statudol mae cynllun yr ‘Ysgol Iach’ yn cynnig ei hun fel sylfaen i gyflawni’r agweddau o fewn y Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol (AADGOS 2008).

Mae Cynllun Ysgolion Iach Gwynedd yn cael ei ariannu gan Llywodraeth Cynulliad Cymru drwy law Iechyd Cyhoeddus Cymru a gweithredir mewn partneriaeth â’r Adran Addysg.

Derbyniodd Cynllun Ysgolion Iach Gwynedd achrediad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym Mehefin 2002. Golyga hyn bod cynllun Gwynedd wedi llwyddo i gyrraedd y safon uchaf a ddisgwylir gan y Cynulliad. Dylai pob Ysgol felly gyflawni’r safon angenrheidiol er mwyn sicrhau safon cynllun.

Derbyniodd Cynllun Ysgolion Iach Gwynedd achrediad gan Clywed yn 2007 ac eto yn 2009. Cyflwynwyd y wobr yma am y gwaith o sicrhau bod y Cynllun yn gwrando ar leisiau plant a phobl ifanc a sicrhau bod disgyblion yn cyfrannu tuag at yr holl weithgareddau o fewn Cynllun Ysgolion Iach.

 
  
| Mwy
     
 

 

Hawlfraint (c) 2010. Ysgolion Iach Gwynedd

 
 
Dylunwyd gan Delwedd