Hafan
  Amdanom ni
  Y Cynllun
  Athrawon
  Plant
  Cysylltu
 

Yn yr Adran yma

 

 
     
     
     
 

Y CYNLLUN

gweithredu'r cynllun

 
 
 

Gweithredu’r Cynllun

Mae cynllun Ysgolion Iach Gwynedd wedi ei rannu i dri cham. Disgwylir i ysgolion gyflawni gwaith yn gysylltiedig â’r cynllun mewn oddeutu 3 blynedd. Pwysleisir nad oes amser penodedig ar gyfer cyflawni’r gwaith ond efallai y bydd goblygiadau cefnogaeth ac ariannu os yw’r ysgol yn cymryd mwy o amser na ddisgwylir.

Cyfathrebu Effeithiol

Mae arfer da ymysg Ysgolion Iach wedi dangos fod cyfathrebu’n effeithiol yn allweddol i lwyddiant y cynllun. Canlyniad hyn yw bod pob aelod o gymuned yr ysgol yn ymwybodol o’r cynlluniau a’r datblygiadau o fewn y cynllun ac yn cael y cyfle i gynnig mewnbwn, pan yn briodol. Disgwylir i bob ysgol felly sefydlu grŵp llywio/gweithgor er mwyn trafod y blaenoriaethau, datblygiadau a’r effaith ar yr ysgol gyfan. Gall y grŵp llywio/gweithgor gynnwys y Pennaeth, aelodau o’r Uwch Dîm Rheoli, cydlynydd y cynllun, llywodraethwr, rhiant, aelodau o’r cyngor ysgol, staff ategol/goruchwylwyr, nyrs ysgol neu unrhyw berson sydd â diddordeb mewn agweddau iechyd a diogelwch o fewn yr ysgol.

Awgrymir bod ysgolion yn dewis y pwyntiau sy’n cyd-fynd â'u themâu, rhaglen waith a blaenoriaethau Cynllun Datblygu Ysgol, yn y gobaith nad yw’r gwaith yn ychwanegol i’r hyn a gynlluniwyd yn barod.

Dylai pwynt un gael ei weithredu yng ngham un o’r cynllun er mwyn creu sylfaen gadarn ar gyfer sefydlu a chynnal y cynllun yn y tymor hir.

Er enghraifft gall ysgol fabwysiadu patrwm tebyg i’r isod:-

Blwyddyn
Tymor 1
Tymor 2
Tymor 3
Cam 1
Pwynt 1
Pwynt 4
Pwynt 7
Cam 2
Pwynt 2
Pwynt 5
Pwynt 8
Cam 3
Pwynt 3
Pwynt 6
Pwynt 9
Pwynt 10

 

Disgwylir i bob ysgol gadw portffolio o dystiolaeth o’r holl weithgareddau a’i gyflwyno ar ddiwedd pob Cam ar gyfer asesiad allanol.

Yng Ngham 4, 5 a 6 disgwylir i ysgolion fod yn gweithio tuag at y Wobr Ansawdd Cenedlaethol Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru drwy ddefnyddio'r ddogfen Dangosyddion ar gyfer Gwobr Ansawdd.

I weld Cyflwyniad powerpoint ar Gamau 4, 5 a 6 cliciwch yma


Dangosyddion ar gyfer Gwobr Ansawdd Cenedlaethol Cynlluniau Ysgolion Iach-Rhwydwaith Cymru (Cam 6)
........ cliciwch yma ar gyfer dogfen Word neu cliciwch yma ar gyfer dogfen pdf

Canllawiau Cyffredinol

Mae disgwyl i ysgolion:-

• Gyflwyno cynlluniau gweithredu ar gyfer pob pwynt a chasglu tystiolaeth i gefnogi’r targedau a ddewiswyd.
• Gyflwyno’r portffolio ar gyfer asesiad allanol.
• Derbyn ymweliad ysgol gan yr asesydd allanol.

Yn dilyn asesiad llwyddiannus gwobrwywir yr ysgol gyda phlac oddi wrth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Awgrymiadau ar sut i sefydlu Cynllun Ysgolion Iach ..... cliciwch yma

 
  
| Mwy
     
 

 

Hawlfraint (c) 2010. Ysgolion Iach Gwynedd

 
 
Dylunwyd gan Delwedd