Cofiwch gadw llygaid ar y Calendr isod er mwyn gweld beth sydd ymlaen ...
Big Pedal: 5 – 23 Mawrth 2012
|
Mae’r Big Pedal yn ei ôl a’r tro hwn mae’n addo bod yn fwy ac yn well nag erioed. Rydym wedi ystyried eich adborth ac wedi gwneud rhai gwelliannau cyffrous i’r ras – sydd nawr yn cynnwys sgwteri!
Mae’r ras ar agor i bob ysgol yn y DU ac fe’i cynhelir rhwng 5-23 Mawrth 2012.
Ni chodir tâl am gymryd rhan ac mae gwobrau gwych i’w hennill.
Er mwyn sicrhau eich lle yn y ras, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhag-gofrestru eich ysgol nawr – bydd ond yn cymryd munud o’ch amser.
Fe’ch gwelwn ar ddechrau’r ras!
The Big Pedal
|
| |
Ebrill 4ydd 2012 - Diwrnod Cicio’r Sigaréts Allan
 |
Ebrill 4ydd Diwrnod Cicio’r Sigaréts Allan - diwrnod cenedlaethol o weithredu sy’n grymuso pobl ifanc i Gamu allan, Codi Llais a Chymryd Rheolaeth yn erbyn Tybaco Mawr.
Partneriaeth rhwng ASH Cymru a Tenovus yw rhaglen Ffaith. Mae Ffaith yn gweithio gyda phobl ifanc yng Nghymru i ddatblygu a chyflenwi’r amrywiaeth o brosiectau gyda phobl ifance, gan gynnwys Diwrnod Cicio’r Sigarets Allan a’r Rhaglen Hyrwyddwyr Iechyd Cyfoedion. |
Edrychwch ar ein Calendr i weld beth sydd 'mlaen ...
|